Tŷ Dawns

  • 1.jpg
  • 2.jpg
  • 3.jpg
  • 4.jpg

Ein cartref yw eich cartref

Yn ogystal â chynhyrchu a pherfformio ein gweithiau ein hunain yn y Tŷ Dawns, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn annog perfformwyr ac artistiaid eraill a'r cyhoedd i fanteisio ar adnoddau ardderchog y Tŷ Dawns. Mae hyn yn ein galluogi i gael cyswllt â'r cyhoedd, a thrwy hynny greu ymwybyddiaeth o'r Cwmni a'r gwaith y mae'n ei greu a'i gyflwyno.

Er mwyn cael gwybod rhagor ynghylch digwyddiadau yn y dyfodol i'w cynnal yn y Tŷ Dawns, ewch i ymweld ag adran ‘Beth sydd ymlaen ac yn lle' y wefan, trwy glicio yma.

 

SHH!

Gwaith blaengar sy'n ennyn cywreinrwydd o fewn ‘tŷ' rhithwir/wedi ei osod. Wedi ei gyd-gyfarwyddo gan Gydymaith Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Roy Campbell-Moore a'r artist gweledol Sue Williams mewn cydweithrediad â Chloe Loftus a Jem Treays. Gall cynulleidfaoedd symud o gwmpas wrth iddynt wylio'r cwpwl camweithredol. Mae SHH! Wedi ei seilio ar thema cyfathrebu sydd i'w weld yn ail-ymddangos dro ar ôl tro yn nelweddau Sue Williams.

Gwelwyd SHH! am y tro cyntaf yn y Tŷ Dawns ym mis Mawrth 2009.

Os oes diddordeb genych mewn cyflwyno SHH! yn eich lleoliad ynteu eich oriel chi, yna cysylltwch â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru os gwelwch yn dda ar 02920 635 600 i gael rhagor o wybodaeth.

I weld fideo o'r cynhyrchiad cliciwch yma.