Silver: Autumn

  • 1.jpg
  • 2.jpg
  • 3.jpg
  • 4.jpg

Yn dathlu ein henw newydd: Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

 

Bydd ein deg dawnsiwr dethol yn perfformio dwy ddawns feiddgar a dengar fydd yn eich ysbrydoli'n gorfforol ac yn emosiynol.

 

Yn dilyn ein llwyddiant aruthrol gyda Peeled, mae gwaith newydd Itzik Galili yn dirgrynu gyda'i arddull gain ac eclectig, gan greu emosiwn o'r symud, a deallusrwydd allan o reddf. Yn heriol
i'r gynulleidfa a'r dawnswyr fel ei gilydd, mae'r gwaith hwn yn asio ynghyd gerddoriaeth gan Steve Reich a Percossa ac arddull gorfforol llawn mynegiant Galili, gan fynd â ni ar daith o archwilio ar wib trwy dirwedd safbwynt a chanfod.

 

Mae menter gyntaf y coreograffwr o Roeg Andonis Foniadakis gyda'r Cwmni yn cwmpasu'r llwyfan ac yn swyno'r gynulleidfa. Mae ei waith beiddgar o ddychmygus yn arddangos natur gorfforol dechnegol a nodweddiadol hylifol ei waith. Swynir y dychymyg gan natur soffistigedig
y gwaith apelgar hwn yn ogystal ag artistri'r dawnswyr. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth fendigedig gan Julien Tarride gan weithio ar y cyd ar greu'r ddawns gyda Foniadakis.

 

manylion