Datblygiad proffesiynol

  • pdss_1.jpg
  • pdss_2.jpg
  • pdss_3.jpg
  • pdss_4.jpg
  • pdss_5.jpg
  • pdss_6.jpg

Galluogi tŵf artistig

Catalydd ar gyfer hyrwyddo creadigrwydd a menter yw Datblygiad Proffesiynol. Mae'n galluogi archwilio a datblygu creadigrwydd artistig a'i feithrin yn y Tŷ Dawns ac ar draws lleoliadau artistig yng Nghymru. Mae Dance Explorer: Datblygiad Proffesiynol yn galluogi artistiaid o fewn mudiadau a chrewyr allanol i gydweithio trwy cyd-gynyrchiadau, perfformiadau, gweithdai a thrafodaethau - gan annog cyfathrebu.

 

Enghreifftiau o'n gwaith Datblygu Proffesiynol:

  

Plunge:

Fel rhan o ymrwymiad Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i addysg a hyfforddiant rydym wedi datblygu Rhaglen Brentisiaeth ar gyfer chwe dawnsiwr sy'n cynnig lle iddynt yng ngwersi dyddiol y cwmni a'r cyfle i ddysgu'r repertoire cyfredol yn ogystal â gweithiau newydd. Bydd y cynllun yn cynnwys chwe pherfformiad yng Nghymru, a rhaglen estyn allan addysgiadol. Mae'r cyfle hwn yn un digymar i ddawnswyr sy'n dymuno meithrin profiad ar gyfer llwyddo o fewn amgylchedd cwmni dawns proffesiynol.

Wedi ei gyfarwyddo gan Gydymaith Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Roy Campbell-Moore, bydd y dawnswyr yn perfformio fersiwn newydd o Hinterland (o repertoire cyfredol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru) a gwaith newydd o'r enw, Shut Up! Bydd y cynhyrchiad a berfformir gan brentisiaid, yn cael ei gynhyrchu gan y tîm yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac yn teithio, gan ddefnyddio profiad helaeth y Cwmni, er mwyn cyflwyno noson o ddawns gyfoes o safon uchel.


Alternative Routes:

Dyma gyd-gynhyrchiad blynyddol sylweddol rhwng y Cwmni a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sy'n dathlu'r creadigrwydd sy'n bodoli yng Nghymru wrth i goreograffwyr gydweithio gyda chynllunwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i greu gwaith newydd gyda dawnswyr Diversions. Mae'r cynyrchiadau yn ffordd o feithrin doniau newydd a phartneriaethau posib ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.

Departure Terminal:

Dyma gyfnod pan fo dawnswyr y Cwmni yn cael cyfle i feithrin eu syniadau coreograffaidd a chreadigol ei hunain. Gall y prosiect fod ar un o ddwy ffurf - naill ai trwy gyfranogi mewn cyfres o weithdai a thrafodaethau ynteu trwy fod yn goreograffwyr, gan greu cynyrchiadau llawn sy'n cael eu dangos i westeion yn y Tŷ Dawns.

Dosbarth y Cwmni/Prentisiaeth:

Mae'r Cwmni yn rhannu dosbarthiadau'r cwmni a chyfleoedd hyfforddiant gyda'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr ynteu ddawnswyr proffesiynol sy'n gweithio ar hyn o bryd yng Nghymru.

Dosbarth y Cwmni: Pan fo'r Cwmni yn breswyl yn y Tŷ Dawns, gall dawnswyr sydd wedi cwblhau isafswm o dair blynedd o hyfforddiant proffesiynol ymuno yn nosbarth y Cwmni. Dysgir y dosbarth naill ai gan aelodau'r Cwmni ynteu gan athro gwadd. Os hoffech gymryd rhan mewn dosbarth yna cysylltwch os gwelwch yn dda â Chynorthwydd Gweithredol ar 029 2063 5605.

Prentisiaeth blwyddyn o hyd Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain:

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gweithio mewn cydgysylltiad ag Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain er mwyn cynnig rhaglen brentisiaeth blwyddyn o hyd. Mae'r brentisiaeth yn rhan o radd MA ac, er mwyn cymryd rhan, rhaid i ddawnswyr ymgeisio trwy Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain a mynychu clyweliad yn The Place yn Llundain. Mae'r clyweliadau hyn yn cael eu cynnal fel arfer yn ystod mis Ebrill. Mae'r cynllun prentisiaeth yn galluogi myfyrwyr i ymuno â'r cwmni am flwyddyn er mwyn datblygu eu doniau fel artistiaid creadigol.

CYNHYRCHU A CHYD-GYNHYRCHU:

Gweithia y Cwmni mewn partneriaeth ag artistiaid dawns annibynnol, cyfansoddwyr, artistiaid gweledol, lleoliadau a mudiadau ar draws Cymru ac Ewrop. Mae Dance Explorer yn angerddol ynghylch torri tir newydd, creadigrwydd a chydweithio, gan ddymuno rhannu'r adnoddau unigryw yma yn y Tŷ Dawns gydag artistiaid creadigol eraill. Os yw'r gofod ar gael, yna ein gweledigaeth yw galluogi artistiaid creadigol eraill i weithio yn yr adeilad. I logi gofod, ynteu os oes gennych brosiect ynteu syniad yr hoffech ei drafod yna cysylltwch os gwelwch yn dda â Rheolwr Prosiectau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Croesawn gysylltiadau newydd oddi wrth artistiaid annibynnol a mudiadau sy'n chwilio am bartneriaethau addas ar gyfer eu prosiectau.

 

 

Close