Newyddion

  • 1.jpg
  • 2.jpg
  • 3.jpg
  • 4.jpg

Taith yr Hydref 2010 29.07.10

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn mynd ar daith sylweddol o gwmpas y DU ym mis Medi gyda gweithiau gan ddau o enwau mwyaf y byd dawns, gyda'r ddau wedi eu creu yng nghartref y Cwmni dawns blaenllaw yng Nghaerdydd.

 

Bydd y sioe dau waith yn cynnwys Romance Inverse gan y coreograffwr Itzik Galili sydd wedi ei leoli yn yr Iseldiroedd a gwaith newydd gan Stephen Petronio a grëwyd dros yr haf gyda thîm Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

 

Perfformiwyd gweithiau gan Petronio (Strange Attractors) a Galili (Peeled) yn ystod taith y Cwmni yn 2008 i nodi chwarter canrif ers ei sefydlu gan dderbyn canmoliaeth uchel.

 

Mae gwaith Galili wedi ei amlygu gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac mae'r gwaith newydd hwn wedi ei ganmol gan gynulleidfaoedd pan gafodd ei berfformio mewn nifer o leoliadau yn ystod y gwanwyn. Y Gwaith newydd hwn gan Petronio yw comisiwn cyntaf y Cwmni gan y coreograffwr ffasiynol o Efrog Newydd. Mae hwn fel ei weithiau eraill yn llawn o'r cyffro a'r hylifedd, y cyflymdra a'r ffasiwn fendigedig sy'n nodweddu ei waith, ond yn ogystal ag ymdeimlad unigryw a phendant Gymreig gyda chyfeiriadau at ein traddodiad corawl.

 

Crëwyd y gwaith newydd hwn mewn cydweithrediad â 11 dawnsiwr rhyngwladol y Cwmni yn ystod Awst a mis Medi a'i rag-ddangos yng nghartref y Cwmni blaenllaw, y Tŷ Dawns o fewn Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, cyn mynd ar daith.

 

Bydd y Cyfarwyddwr Artistig Ann Sholem yn mynd â'r sioe ar daith wedyn rhwng Media a Thachwedd gyda'r perfformiadau cyhoeddus cyntaf yng Nghanolfan Glan yr Afon, Casnewydd ar 28 Medi.

 

Mae'r daith hon yn dilyn taith hynod lwyddiannus y Cwmni yng ngwanwyn 2010 a gynhwysodd berfformiadau yn y DU ac Iwerddon a thaith hynod lwyddiannus yn y Swistir a oedd yn ei thro yn dilyn taith a fu'n ymweld â Tsieina yn ystod hydref 2009.

 

CDCCymru oedd yr unig gwmni o'r DU i dderbyn gwahoddiad i berfformio yng Ngŵyl Ddawns Ryngwladol STEPS yn y Swistir. Perfformiodd y Cwmni yn Lucerne, Baden, Bern, Delémont, Chiasso, Zug a Zürich o flaen cynulleidfaoedd mawr a brwdfrydig.

 

Perfformiodd y Cwmni raglen gymysg a gynhwysai >>FORM<< gan Stijn Celis, Veil of Stars gan Andonis Foniadakis a Lunatic gan Nigel Charnock.

 

Yn ogystal mae yna ddawnswyr newydd yn ymuno â'r tîm artistig. Eu henwau yw Ygal Tsur sy'n ymuno â'r Cwmni o Ffrainc a Gareth Mole a Harriet Bone sydd ill dau yn brentisiaid yn The Place, Llundain. Yn ogystal mae Emma Lewis o Gymru yn ymuno â'r Cwmni fel ei Gyfarwyddwr Ymarfer newydd.

 

Dywedodd Ann Sholem y Cyfarwyddwr Artistig; "Mae hwn yn mynd i fod yn dymor newydd cyffrous gyda dau o goreograffwyr egniol, dychmygus a chydymdeimladol yr wyf wedi dilyn eu gwaith yn agos ac wedi bod yn awyddus i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd yn y DU.

 

"Roedd cynulleidfaoedd mor bell wrth ei gilydd â Bilbao ac Aberhonddu, Milan a'r Wyddgrug wedi ffoli ar eu gwaith, ac rwyf wrth fy modd fod y gwaith newydd Romance Inverse llawn mor boblogaidd. Aethom â'r gwaith ar ein taith wanwyn a lle bynnag yr oeddem yn perfformio roedd yr ymateb yn wefreiddiol. Mae'n wych cael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd newydd eto mewn lleoliadau yn ystod yr hydref."

 

Y Rhaglen

Mae Ann Sholem wedi comisiynu'r ddwy ddawns oddi wrth ddau coreograffwr rhyngwladol sydd yn eu hanterth.

 

Mae gwaith newydd Galili yn defnyddio cerddoriaeth gan y cyfansoddwr ffasiynol Steve Reich sef 'Six Marimbas' a sgôr cerddorol newydd a gomisiynwyd gan Percossa. Dyma'r grŵp a greodd y gerddoriaeth fythgofiadwy ar gyfer Peeled yn 2006. Mae Galili yn gweithio hefyd gyda'r un tîm goleuo a chynllunio gwisgoedd.

 

Mae'r coreograffwr greddfol yn defnyddio byrddau ar y llwyfan er mwyn creu'r gofod y mae'r dawnswyr, oll o'r un rhyw, yn symud o'i fewn gyda dim ymwneud corfforol rhyngddynt. Yna mae'r dawnswyr yn dawnsio fel parau a pherfformio gwaith ensemble wrth iddynt symud gyda'i gilydd a'r gwaith fynd rhagddo.

 

Bydd cefnogwyr Galili yn mwynhau'r cyfeiriadau at ei waith diweddar Six yn ogystal â'r ffordd y mae ei waith cain ac eclectig yn herio'r gynulleidfa a'r dawnswyr fel ei gilydd. Mae'r gwaith yn theatrig a beiddgar hefyd gyda defnydd bendigedig o oleuadau.

 

Bydd ymddangosiad coreograffig cyntaf Stephen Petronio gyda'r Cwmni yn ddathliad o brydferthwch a chorfforoldeb y dawnswyr a'r ddawns. Mae'r gerddoriaeth yn hynod brydferth hefyd ac yn cynnwys cerddoriaeth gorawl o Gymru ac, mewn rhai lleoliadau, canu byw.

 

* * * * *
Western Mail

 

"Impressively adventurous" The Guardian

 

"Grasps us through vision and emotion" Western Mail

 

"Brilliantly executed" Jersey Evening Post

 

"Electric" Dance Europe

Close