Newyddion
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru - Llwyddiant taith ir Swistir 26.05.10
Does dim byd tebyg i sŵn traed carlamus ac ambell i floedd yn dweud bravo (ym mha iaith bynnag) i wneud i gwmni teithiol rhyngwladol deimlo eu bod ar ben ei digon.
Felly cafodd brwdfrydedd yr ymateb i berfformiadau olaf Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Zurich ar ddiwedd taith i chwe dinas, ac a oedd wedi cynnwys saith perfformiad, groeso llawn mor dwym galon â'r parti diwedd taith.
Roeddwn wedi bod yn dilyn hynt y daith, trwy gyfraniadau blog y cyfarwyddwr Artistig, Ann Sholem, o'r eiliad y cyrhaeddodd hi, y deg dawnsiwr, y Cyfarwyddwr Ymarfer a'r tîm technegol tri pherson yn Luzern ar ôl taith hir ar dir a môr i'r Swistir, diolch i'r cwmwl hwnnw o lwch o'r llosgfynydd yng Ngwlad yr Ia.
‘Dyw Sholem ddim yn gyndyn i ysgwyddo her i'w Chwmni. Y llynedd, yn ddewr iawn, cytunodd ar strategaeth newydd a olygai ffarwelio â'r enw Diversions ar ôl chwarter canrif a defnyddio enw newydd beiddgar. Dilynwyd hyn â nodi goruchafiaeth y Cwmni fel sefydliad celfyddydol teithiol rhyngwladol mwyaf allweddol Cymru.
Yn dilyn gwerthiant tocynnau uwch nac erioed ar gyfer taith wanwyn y Cwmni, yr her newydd oedd cyflwyno dawnsio'r Cwmni - a'r dawnswyr - fel yr unig gwmni o'r DU a oedd yn cyfrannu at ŵyl ddawns fawreddog STEPS ochr yn ochr ag 11 o gwmnïau dawns amlycaf y byd.
Erbyn i mi ymuno â'r Cwmni yn Zurich roeddent wedi perfformio ar hyd a lled y wlad, yn cynnwys Bern, Luzern, Baden, Delemont a Chiasso. Roedd yr adroddiadau o'r daith yn argoeli'n dda, gydag adroddiadau oddi wrth y tîm yn cyfeirio at gynulleidfaoedd cryf a brwdfrydig, clod oddi wrth y beirniaid - a hyd yn oed dywydd braf ac ambell ennyd o seibiant i hwylio ar gychod ar lynnoedd y Swistir!
Roedd y blogiau hyn nid yn unig yn arddangos effeithiolrwydd y lletywyr o'r Swistir, prydferthwch y wlad, brwdfrydedd y cynulleidfaoedd ynghylch y tair dawns a gyflwynwyd mewn cyfuniadau amrywiol yn ystod perfformiadau, ond hefyd ymateb cadarnhaol y Cwmni i dreulio cyfnod yn y genedl hon sydd â'r fath ymrwymiad i ddawns.
Mae teithio rhyngwladol yn hanfodol er mwyn datblygu dawns yng Nghymru. Fel y nododd Ann Sholem: "Mae gweld cwmnïau eraill yn perfformio mewn gŵyl o'r fath yn caniatáu i mi dafoli ein gwaith ni o fewn y farchnad fyd-eang. O'r adnoddau sydd gennym rydym yn cyflawni gorchestion er bod gennym llai nag eraill o ran nifer y dawnswyr ac adnoddau cynhyrchu. Mae galw bellach am y Cwmni ac mae hynny'n golygu bod modd i ni fwynhau'r cyfle i fynd â'r gweithiau rhagorol a grëir yng Nghymru i leoliadau ar draws Ewrop a thu hwnt."
Mae teithio rhyngwladol yn rhoi cyfle hefyd i weld sut y gwneir pethau mewn llefydd eraill, felly yn y prynhawniau roedd Sholem a'i thîm strategol yn cloi eu hunain i mewn i stafell er mwyn cael cyfarfodydd ‘petasai petai' - cyfle i feddwl yn ehangach ac yn fwy dychmygus. Gyda phrofiadau a dylanwadau newydd yn amlygu eu hunain ar ôl taith ryngwladol lwyddiannus arall a digon o feddwl strategol wedi digwydd i gystadlu â'r trafodaethau ar gyfer sefydlu clymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr, mae cynlluniau bellach ar y gweill ar gyfer rhaglen newydd o ddigwyddiadau at yr hydref yng nghartref y Cwmni yn Nhŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, a rhaglen deithiol newydd ar gyfer hydref 2010 hefyd.
Wedi i adlais y gymeradwyaeth bylu a'r gwaith o ymadael â lleoliad ddod i ben, cychwynna'r Cwmni hefyd wasgaru i amrywiol gyfeiriadau - un dawnsiwr yn gorffen ei gyfnod gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rhai o'r lleill yn hedfan i dreulio amser gartref i fwynhau egwyl fer, tra bod eraill yn ei throi hi am Gaerdydd.
Fu'r daith yn llwyddiant i Gymru? I ddyfynnu un beirniad o'r Swistir: "Rhaid taw dyma wireddu breuddwyd coreograffwr, sef cael cydweithio gyda dawnswyr mor ardderchog."








