Ein Enw Newydd

  • 1.jpg
  • 2.jpg
  • 3.jpg
  • 4.jpg

 Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru - Y Lawnsiad

 Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Y Lawnsio

  Roedd y Cyfarwyddwr Artistig Ann Sholem
  wedi addo ambell syrpreis pan gyhoeddodd
  fod Diversions, cwmni dawns amlycaf Cymru
  yn newid ei enw i Gwmni Dawns
  Cenedlaethol  Cymru ond ‘doedd neb yn barod
  am yr hyn a ddaeth wedyn.

 

 

Llywydd, Lord Dafydd Elis-Thomas

 

Digwyddodd y digwyddiad ail-enwi yn y Senedd ym Mae Caerdydd dan nawdd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a ddywedodd ei fod yn annerch nid dim ond fel un o gefnogwyr hirdymor y Cwmni a'i ddawnsio ond hefyd fel rhywun a oedd yn ymhyfrydu yn y tŵf a'r datblygiad a welwyd yn y cwmni yn ystod y deng mlynedd pan fu tŵf datganoli hefyd i'w weld yng Nghymru. 


Roy Campbell-Moore

  Soniodd cyd-sylfaenydd y cwmni Roy
  Campbell-Moore ynghylch sut yr oedd yr
  achlysur, chwe blynedd ar hugain ar ôl
  sylfaenu Diversions, yn gwireddu
  breuddwyd a fu ganddo ers pan fu'n
  ddyn ifanc yn ei Awstralia genedigol pryd
  yr oedd wedi dyheu am gael rhan yng
  nghreu cwmni dawns blaengar a oedd yn
  rhoi rhagoriaeth yn gyntaf.Lee Johnston

 


Dywedodd ei gyd-Awstraliad Lee Johnson wrth y rheini a oedd yn bresennol yn y digwyddiad ei bod hi'n dathlu'r pumed pen-blwydd ers iddi ymuno â Diversions a bod yr enw newydd wedi dod i fod o ganlyniad i ddawnsio'r dawnswyr, safon y gwaith a'r balchder y maent yn ei deimlo o gynrychioli Cymru gartref ac yn rhyngwladol.

 Alun Ffred Jones
Fel Gweinidog Diwylliant Cymru, dywedodd Alun Ffred Jones fod Diversions wedi ei gydnabod fel cwmni dawns cenedlaethol Cymru ers cryn amser, a bod y newid enw yn cadarnhau'r statws hwnnw. "Fel cwmni dawns a gydnabyddir yn rhyngwladol, gwn y bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn parhau i gynrychioli ac adlewyrchu'r gwerthoedd sy'n sylfaen inni yma yng Nghymru, yng Nghymru benbaladr ac yn rhyngwladol."


Dai SmithEstynnodd yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ei longyfarchiadau i'r Cwmni am ei lwyddiannau yn arbennig wrth ddenu pobl at gelfyddyd y ddawns. Wrth gloi ei sylwadau adroddodd rannau o gerdd W B Yeats Among Schoolchildren "O body swayed to music, O brightening glance, How can we know the dancer from the dance?"


Nick Capaldi  Cydnabu Mr Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru bod Diversions wedi bod ymhlith Cwmnïau teithiol prysuraf Cymru gan fynd â dawns gyfoes ar draws Cymru, y DU ac Ewrop. "Gan adeiladu ar chwarter canrif o ddatblygu gofalus ac amyneddgar, mae Diversions wedi ei sefydlu ei hun fel cwmni dawns mwyaf amlwg Cymru," gan ddweud ymhellach "Mae'n gwmni sy'n ymrwymedig i fod er budd Cymru ac o Gymru ac mae'r newid hwn yn enw'r Cwmni yn adlewyrchu'r uchelgais hon."

Ac yna gydag Ann Sholem yn gwasgu botwm a bloedd orfoleddus oddi wrth y chwedlonol James Brown, darganfu'r gynulleidfa fod dawns ar gyfer y genedl go iawn gyda fideo tair munud o hyd.


Gwelwyd y Prif Weinidog Rhodri Morgan yn dawnsio o flaen y Senedd, y seren opera Rebecca Evans yn rhoi ei holl, dyn tywydd y BBC Derek Brockway yn mwynhau'r rhythmau, a Catrin Finch yn dawnsio ymhlith traffig y ddinas - a dim ond y dechrau oedd hynny.


Roedd y fideo yn traws-blethu dawnswyr y Cwmni gyda golygfeydd o wleidyddion o Gymru, enwogion y cyfryngau, dawnswyr, cantorion, criw o ddiffoddwyr tân a hyd yn oed criw o bobl gweini o fwyty Indiaidd oll yn cael eu gweld yn dawnsio dros Gymru.


Dangosodd y personoliaethau radio a theledu Andrea Benfield, Matt Johnson a Nicola Hayward-Thomas fod ganddynt dalent am y mwyaf poblogaidd o'n celfyddydau a berfformir, tra bod Gweinidog Cyllid Llywodraeth y Cynulliad Andrew Davies ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol fod ganddynt hwythau hefyd dipyn o glem.


Roedd y ddawns yn seiliedig ar ddarn yn repertoire y Cwmni o'r enw FORM a luniwyd gan y coreograffydd o wlad Belg Stijn Celis sy'n arddangos hefyd lais y chwedlonol James Brown.
Y fideo oedd uchafbwynt y digwyddiad lansio ar gyfer Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac â'r gerddoriaeth yn canu o hyd yn ei glustiau prin bod angen dim perswâd ar y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas i gychwyn dawnsio unwaith eto gyda dawnsiwr o'r Cwmni Maria Hayday ar risiau'r Senedd.

Ann Sholem, Artistic Director, speaking at the launchDywedodd Ms Sholem, "Roedd creu'r fideo yn gymaint o hwyl. Rydym oll yn angerddol ynghylch dawns ac roedd hi'n wych medru rhannu rhywfaint o'r angerdd hwnnw gyda chymaint o gyfeillion o bob cwr o Gymru a gytunodd i ddawnsio i'r genedl. Prin y medrwn aros nawr i gael perfformio ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Tachwedd a mynd â'n dawnsio ar draws Cymru a thu hwnt".

Mae'r Cwmni dawns wedi ei leoli yn y Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyferbyn â'r Senedd yn Pierhead Street ac mae iddo ei fynedfa ei hun Heddiw mae'r dawnswyr wrthi'n creu gwaith newydd yno.

BDancers in Cardiff Bayydd hwn yn rhan o'r rhaglen pan fydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ymddangos ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Tachwedd fel uchafbwynt dathliadau pum mlwydd oed y ganolfan.

I weld y fideo cliciwch yma.

 

 

 

 

 

Geriau: Mike Smith 
Lluniau: Huw John