Tŷ Dawns
Cwmni perfformio: Y Tŷ Dawns
Mae'r Tŷ Dawns yn rhan o Ganolfan Mileniwm Cymru ac yn fwy na dim ond cartref ar gyfer Cwmni Dawns Cenedlathol Cymru, Diversions gynt. Mae'n darparu adnodd cynhyrchu a gofod perfformio gyda'r gorau yn y byd ond yn ofod hefyd ar gyfer prosiectau dawns eraill.
Mae'r Cwmni yn un o naw mudiad trigiannol sydd wedi eu lleoli o fewn Canolfan Mileniwm Cymru ynghyd â Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Hijinx, Touch Trust, Tŷ Cerdd, yr Academi a'r Urdd. Mae CMC yn ganolbwynt creadigol lle medrwn feithrin ein gwaith fel mudiadau unigol a thrwy gyd-weithio a chreu partneriaethau.
Mae'r Tŷ Dawns yn llawn bwrlwm gweithgaredd gydol y flwyddyn o greu ac ymarfer repertoire cyfredol y Cwmni, i weithgarwch helaeth Dance Explorer sy'n cynnwys cyd-gynyrchiadau artistig; digwyddiadau dawns i bobl ifanc a hyfforddiant ar lefel uchel.
Golyga hyn fod y Tŷ Dawns yn darparu i ni ganolfan gartref gref lle y gall dawn a chreadigrwydd ddatblygu, gan sicrhau dyfodol llwyddiannus a hyfyw i ddawns yng Nghymru.
Mae gan y Tŷ Dawns ddwy stiwdio gynhyrchu, ardal lolfa a gofod swyddfa. Mae'r brif stiwdio gynhyrchu, yr Ystafell Las, â'r adnoddau technegol gorau ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno dawns, gan gynnwys 100 o seddau ar lethr y gellir eu symud o'r neilltu. Mae'r ail stiwdio, Man Gwyn, yn sgwâr syml gyda bariau bale, drychau a llenni llwyd cylch llawn ar gyfer ymarfer ynteu gynyrchiadau mwy agos atoch.











