Cartref
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Rydym wedi codi curiad calon sawl un ar y llwyfan ac oddi arno, ar draws y genedl ac ar draws y byd dros gyfnod o chwarter canrif dan yr enw Diversions. Yn awr, ymunwch â ni wrth i ni gymryd y cam nesaf, a gwisgo mantell enw beiddgar newydd: Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Yn ôl ym 1983 y crëwyd y cwmni, Diversions, gan Roy Campbell-Moore ac Ann Sholem gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Eu gweledigaeth oedd dod â'r coreograffi ddisgleir iaf a blaengar i Gymru a'i berfformio gan ddawnswyr â chymeriad ac unigolrwydd o fewn mudiad a fuasai'n eu meithrin, eu maethu a hyrwyddo celfyddyd y ddawns.
O'n cartref, sydd â'r holl nodweddion diweddaraf, yn y Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein dawnswyr bellach yn perfformio ar draws Cymru benbaladr yn ogystal â bod yn un o gwmnïau teithiol rhyngwladol prysuraf Cymru.
Mae'r perfformiadau dawns gwefreiddiol hynny yn digwydd law yn llaw â rhaglen eang o estyn allan a gwaith addysg yn y gymuned drwyddi draw yn ogystal â meithrin y gelfyddyd yn y Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
The Observer
'A force to be reckoned with'
Dance Europe


















