Repertoire Presennol

  • 1.jpg
  • 2.jpg
  • 3.jpg
  • 4.jpg

Romance Inverse

Coreograffi: Itzik Galili
Cerddoriaeth: Steve Reich, Percossa
Cynorthwy-ydd y Coreograffydd: Leonardo Centi
Cynllun Gwisgoedd: Natasja Lansen
Cynllun Set: Janco van Barneveld
Gwneuthurwr Gwisgoedd: Angharad Gamble
Y Dawnswyr: Y Cwmni  

Mae Itzik a aned yn Tel Aviv yn gydgyfarwyddwr artistig gyda Dans Groep Amsterdam. Astudiodd gyda Nira Paz yn Tel Aviv, dawnsio gyda Chwmni Dawns Bat- Dor a Chwmni Dawns Batsheva cyn symud i'r Iseldiroedd yn 1991.

Yn 1997 fe'i henwebwyd gan y Weinyddiaeth Ddiwylliant fel Cyfarwyddwr Artistig cwmni dawns a oedd newydd ei sefydlu ac a oedd i dderbyn cefnogaeth gyhoeddus ac i'w leoli yn Groningen: Cwmni Dawns Gogledd yr Iseldiroedd /Dawns Galili.

Mae ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dawns Genedlaethol Cylch Beirniaid y DU am y Coreograffi Modern Gorau yn 2010 a'i wneud yn farchog yn yr Iseldiroedd ar orchymyn Tyˆ brenhinol Oranje Nassau yn 2006.

" Dyma ymgom gydag aelodau o'r gynulleidfa - sgwrs weledol ac emosiynol. Mae'r sgwrs honno'n cychwyn gyda dawnswyr o'r un rhyw, yn brydferth, gwyllt a llawn mynegiant, ond a'i gofod corfforol yn cael ei newid a'i ddiffinio gan fyrddau mawr.

" Dimensiwn arall sy'n cael ei archwilio pan fydd ein hymwybyddiaeth yn cael ei newid yn llwyr o ganlyniad i wyrdroi'r ddawns yn llwyr. Rydym yn tystio wedyn i ddatblygiad ymwneud emosiynol, corfforol a rhamantus y dawnswyr gwrywaidd a benywaidd a'i gilydd wrth i ddeuawdau amrywiol ddatblygu.

" Ar hyd yr adeg rydym yn cael ein gyrru gan gerddoriaeth Steve Reich a'r cyfansoddiad newydd ar y marimba a'r offerynnau taro a gyfansoddwyd gan y gydweithfa o gyfansoddwyr, Percossa, o'r Iseldiroedd."

Cliciwch yma i weld y fideo

Veil of Stars

Coreograffi a Chynllun y Gwisgoedd: Andonis Foniadakis
Cyfansoddwr: Julien Tarride
Goleuo: Joe Fletcher
 Gweneuthurwr Gwisgoedd: Rhia Whitnell
Cynorthwywyr Gwisgoedd: Angharad Gamble, Bethan Riggs, Danni Walden
Mygydau: Nia Thomson

Magwyd Andonis Foniadakis yng Nghreta a chychwynodd ar ei hyfforddiant yn yr ysgol ddawns leol; mae’n parhau a’i astudiaethau yn Ysgol Ddawns Wladwriaethol Athen a’r Rudra Bejart Lausanne. Mae Andonis wedi dawnsio gyda Berjart Ballet Lausanne, y Lyon Opera Ballet, Saburo Teshigawara / Karas Co. Mae hefyd yn perfformio a chreu gweithiau ar gyfer ei gwmni
dawns ei hun Apotosoma a gynullodd yn Lyon in 2003.

Mae’r cwmnïau y mae wedi gweithio â nhw fel coreograffydd llaw-rydd yn cynnwys Geneva Ballet, Lyon Opera Ballet, Ballet du Rhin, Cia Sociedade Masculina (Brasil), Cwmni Dawns Helsinki, Bale Cenedlaethol Groeg, Cwmni Dawns Benjamin Millepied (UDA), Bale Washington, Bejart Ballet
Lausanne, Y Cwmni Dawns Hellenaidd, CNSMD Lyon a Gwˆ yl Ddawns Ryngwladol Copenhagen.

" Mae'r ysbrydoliaeth ar gyfer y darn yn ymwneud â chyflwr meddwl, yn gysylltiedig â hunaniaeth, sut mae ei amddiffyn, beth a ddatgelwyd a'r hyn yr ydym yn dymuno ei ddangos i'r gymdeithas. Mewn un ystyr rwyf yn ceisio cyfuno gwaith dawns corfforol ac elfennau mwy theatrig, megis mwgwd, a gweld sut y mae'r gynulleidfa'n delio â hyn. Nid dawns glasurol mohoni nac ychwaith waith llwyr haniaethol gan fod ‘na berthynas ryfedd rhwng y cymeriadau; stori ond un sydd heb fod yn bendant.

" Mae fy ngwaith yn fwy emosiynol na deallusol; nid oes iddo ddechrau canol a diwedd fel ar fwrdd stori. Rwyf eisiau felly i'r gynulleidfa eistedd i lawr a cheisio teimlo, dwyn i gof a meithrin perthynas â'r emosiynau a fydd yn cael eu cymell o'r gweld a'r clywed a wnânt."

Cliciwch yma i weld y fideo

 

Lunatic

Coreograffi a Gwisgoedd: Nigel Charnock
Cynllun Goleuo: Jackie Shemesh
Gwisgoedd: Shanti Freed
Cerddoriaeth: Glen Miller, Underworld, Kitty Kallen, Bach, Billie Holiday, Johnnie Ray

Ganed cyd-sylfaenydd DV8 Nigel Charnock ym Manceinion gan fynychu'r ysgol yn Abergele gan hyfforddi wedyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cyd-sylfaenodd DV8 ym 1986 a sylfaenodd ei gwmni ei hun - Nigel Charnock + Cwmni - ym 1995. Mae gan Nigel enw fel un sy'n
dilyn trywyddion gwahanol ac fel perfformiwr cyfareddol sydd â llu o sioeau unigol a enillodd fri rhyngwladol i'w enw.

"Lleuad, Lloer, Lloerig. Rhyw fath o wallgofrwydd yn wir. Ond hefyd yn ymdreiddio llesmeiriol i fyd y lloergan a breuddwydion, rhamant a methu cysgu. Dylanwadwyd yn fawr ar ddiwyg y darn gan ffasiynau a steil y 1950au gyda'r gwisgoedd sy'n dal y ddegawd ddiddorol hon a ddilynodd y rhyfel, ac a oedd yn llawn o obaith nas gwireddwyd am amseroedd gwell a llewyrch.

"Mae blas oes gynharach i'r gwaith ond fe'i lluniwyd gyda'r ymwneud unionsyth a ddyhëir gan ‘Genhedlaeth You Tube', golgyfeydd sy'n llifo'n chwim ac yn datblygu, dawns sy'n cyfathrebu ac yn cysylltu yn uniongyrchol." Nigel Charnock

Cliciwch yma i weld y fideo

  

Hinterland

Cyfarwyddwr: Roy Campbell-Moore
Cerddoriaeth: Alun Hoddinott
Artist Gweledol: Emrys Williams
Goleuo: Joe Fletcher
Gwisgoedd: Suzi Dorey
Gwneuthurwr Gwisgoedd: Rhia Whitnell
Ymgynghorydd Cerddorol: Jeremy Huw Williams

 Addysgwyd Roy, a aned yn yr Alban, yn Awstralia. Dechreuodd ddawnsio yn 20 oed, gan astudio yn Ysgol Fale Rambert gan berfformio wedyn gyda Bale'r Alban. Ym 1983 cyd-sylfaenodd Roy Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Diversions gynt gyda'r Cyfarwyddwr Artistig Ann Sholem.

Ers hynny mae Roy wedi creu coreograffi ar gyfer dros bump ar hugain o gynyrchiadau y Cwmni ac mae ei weithiau wedi eu perfformio ledled y DU ac yn rhyngwladol. Ers agor Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae wedi defnyddio adnoddau helaeth y ganolfan i ddatblygu ymhellach ei ddiddordeb mewn cyd-gynhyrchu, cyflwyno coreograffwyr newydd a rhoi cyfleoedd i artistiaid gweledol a chyfansoddwyr i greu syniadau newydd trwy ddawns. Mae'n parhau i lunio coreograffi, gan fanteisio ar ei brofiad helaeth o fale a dawns gyfoes, gan fod yn arbennig o awyddus i gyd-weithio gyda chyfansoddwyr.

"Rwyf wedi creu gwaith â phum dawnsiwr i gynrychioli cymeriadau gwahanol sy'n rhyngweithio ac ymwneud â'i gilydd fel cymuned o bobl. Yma fe welwn ramant ifanc, gofid sy'n difa, ymwneud chwareus, hiwmor a drama rhwng y cymeriadau wrth iddynt ddathlu eu bod, o fod yn fodau dynol, yn unigryw.

"Mae Cyfres y Ddawns Gymreig Alun Hoddinott yn ddathliad hynod; bywyd yn ei gyflawnder yn seiliedig ar ymdeimlad o'r tir, y bobl a chaneuon Cymru yr oedd yn eu caru oll gymaint. Digwydd y ddawns o flaen cyfres o gefnlenni lliwgar sy'n cyfleu lliwiau a thonau tirwedd bryniog a barddonol Cymru yn ystod tymhorau gwahanol y flwyddyn." Roy Campbell-Moore

Cliciwch yma i weld y fideo

  

>>FORM<<

Coreograffi a Chynllun y Set: Stijn Celis
Cynorthwy-ydd y Coreograffydd: Joanne Fong
Cynllun Goleuo:Erik Berglund
Cynllun Gwisgoedd:Kathy Brunner
Cerddoriaeth: James Brown, Bretschneider, Steve Reich, Aka Pygmie

Mae’r coreograffwr Belgaidd Stijn Celis wedi dawnsio gyda nifer o gwmnïau gan gynnwys
Cwmni Bale Brenhinol Fflandrys, Dawnsio Cyfoes Zürich a Bale Cullberg, yn 1998 cysegrodd ei hun i goreograffi a disgyblaethau artistig eraill, gan gynnwys cynllunio setiau gwaith. Rhwng 2004 a haf 2007, roedd Celis, a oedd wedi ei leoli yn y Swisdir yn gyfarwyddwr artistig Bern Ballet. Cyflwynwyd ei Practice Paradise gan Diversions yn 2004.

“Ym mhob un o’r pum adran rwyf wedi cychwyn o’r nod o gyflwyno syniad corfforol gwahanol, gan weithio fel grŵp gan symud at yr unigolyn a’r personol. Rwy’n gobeithio y bydd yn brofiad synhwyrus i’r gynulleidfa. Rwy’n argymell syniadau newydd, syniadau corfforol newydd. Mae’n gorfforol iawn, yn feiddgar, yn fanwl ac, rwy’n gobeithio, yn farddonol gyda rhyw awgrym o athroniaeth. Bydd y gynulleidfa yn gweld hefyd eiriau gan Peter Fischli a ‘Will Happiness Find Me?’ David Weiss ar draws y llwyfan. Mae’r gerddoriaeth yn finimalaidd Americanaidd, yn electronig a hyd yn oed rhyw ychydig yn llwythog.” Stijn Celis

Cliciwch yma i weld y fideo

 

Strange Attractors: Prelude & Rhan 2

Ganed Petronio yn Newark, New Jersey, ac ennill B.A. o Goleg Hampshire yn Amherst, Massachusetts, lle y cychwynnodd ddawnsio ym 1974. Yn wreiddiol dan ddylanwad gweithiau Steve Paxton a Rudolf Nureyev, aeth Petronio yn ei flaen i fod yr unig ddawnsiwr gwrywaidd gyda Chwmni Trisha Brown, lle bu'n dawnsio o 1979 hyd 1986. Sefydlodd Gwmni Stephen Petronio yn 1984. Mae wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol am ei goreograffi blaengar sy'n torri tir newydd ac mae'r cwmni wedi teithio'n helaeth ar draws yr UDA a Chanada, Mecsico, Ewrop, De America, Awstralia, Corea a Rwsia.

Mae Petronio yn adnabyddus am ei gydweithio proffil uchel gydag elit Greenwich Village gan weithio gydag artistiaid megis Cindy Sherman, Anish Kapoor, Rufus Wainwright, Laurie Anderson yn ogystal â Lou Reed, Michael Nyman a James Lavelle; â'r rhestr yn ei blaen.

Cadarnheir ei statws fel un o hoelion wyth maes dawns Efrog Newydd gan lu o wobrau, gan gynnwys Cymrodoriaeth John Simon Guggenheim, gwobr Sefydliad Celfyddydol Efrog Newydd, a'r cyntaf i ennill Gwobr Coreograffydd America ym 1987 a Gwobr Dawns a Pherfformio Efrog Newydd (Bessie) ym 1986.

Cliciwch yma i weld y fideo

 

Sugarwater

Coreograffi a Chynllun y Set: Stephen Shropshire
Cynorthwy-ydd y Coreograffydd: Joanne Fong
Cynllun Goleuo: Otto Eggersgluess
Cynllun Gwisgoedd: Jolanda Hendriks
Cynorthwy-ydd Gwisgoedd: Malu Dijk
Cerddoriaeth: Cyfansoddiad newydd yn seiliedig ar gerddoriaeth ddŵr Handel gan

Astudiodd Shropshire goreograffyddiaeth gyda Bessie Schonberg pan yn fyfyriwr yn Efrog Newydd yn Ysgol Juilliard.

 Yn 1999, symudodd Shropshire i'r Iseldiroedd er mwyn gweithio gyda Dawns Galili a mynd rhagddo i greu nifer o weithiau llwyddiannus ar gyfer y cwmni, gan gynnwys ‘Taith y Pibydd' a enillodd iddo'r Wobr Fawr a Gwobr y Cyhoedd yng Nghystadleuaeth Goreograffi Ryngwladol Lwcsembwrg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Shropshire wedi creu gweithiau newydd ar gyfer Cwmni Dawns Gwlad yr Ia, Bale Scapino Rotterdam a Norrdans ac ar hyn o bryd yn un o bedwar coreograffwr trigiannol yn Nhŷ Dawns mwyaf newydd yr Iseldiroedd, Station Zuid. Yn ddiweddar fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr artistig Dawns Gogledd yr Iseldiroedd (NND).

Cliciwch yma i weld y fideo

 

ITZIK GALILI (Peeled)

Wedi ei eni yn Tel Aviv, astudiodd Galili gyda Nira Paz yn Tel Aviv gan fynd rhagddo i ddawnsio gyda Chwmni Dawns Bat-Dor a Chwmni Dawns Batsheva. Yn 1991, symudodd Galili i'r Iseldiroedd. Yn 1992, enillodd ‘The Butterfly Effect' Wobr y Cyhoedd mewn Cystadleuaeth Ryngwladol i Goreograffwyr yn Groningen. Yn 1997, fe'i enwebwyd gan y Weinyddiaeth Ddiwylliant fel Cyfarwyddwr Artistig cwmni dawns newydd ei sefydlu ac wedi ei ariannu gan y cyhoedd i'w leoli yn Groningen: Cwmni Dawns Gogledd yr Iseldiroedd / Dawns Galili.

Symud yw fy iaith, fy ffordd o gyfathrebu; iaith ddi-eiriau sy'n ei gwneud hi'n fwy huawdl fyth.' Itzik Galili

Cliciwch yma i weld y fideo

 

Close