Beth sydd ymlaen ac yn lle
28/09/10 Taith yr Hydref 2010, Casnewydd, Glan yr Afon, 7.30pm
Romance Inverse
Bu dawns Itzik Galili Peeled yn llwyddiant ysgubol gyda'n cynulleidfaoedd yn 2008 ac ers hynny bu galw mawr am ei gweld. Yn awr mae Galili wedi dychwelyd er mwyn creu comisiwn newydd - Romance Inverse. Mae'r dawnswyr yn rhannu llwyfan ond heb ymwneud â'i gilydd; yna newidir cyfeiriad eu symudiadau cywrain a chyfeiriad y symud o gwmpas byrddau mawr sy'n symud. Newidir y ddawns wedyn i mewn i ddangos cyfres o ddeuawdau ac ensemblau prydferth. Mae hyn oll yn cael ei amlygu I gefndir sgôr cerddorol trawiadol oddi wrth Percossa a cherddoriaeth gan Steve Reich a bydd hyn ynghyd â'r goleuo dramatig yn siwˆ r o ennyn y gynulleidfa i alw am ragor.
...and Petronio's back
Mae'r Americanwr Stephen Petronio wedi creu ei gomisiwn cyntaf ar ein cyfer yn dilyn perfformiad ein dawnswyr o Strange Attractions, a grëwyd ganddo, yn 2008. Mae'r ddawns newydd hon yn cyfleu ac archwilio carwriaeth trigolion Efrog Newydd â ffasiwn, presenoldeb corfforol y ddinas a'i brwdfrydedd dros symud. Fe'i crëwyd i sgôr cerddorol gan Ryan Loft sy'n ymgorffori cerddoriaeth gorawl draddodiadol Gymreig. Y canlyniad yw cywaith unigryw rhwng un o goreograffwyr mwyaf deallus y byd, ein dawnswyr rhyngwladol a lleisiau o Gymru gyda'r cyfan yn esgor ar waith sy'n torri tir newydd.














