25 mlynedd

  • 25yrs_1.jpg
  • 25yrs_2.jpg
  • 25yrs_3.jpg
  • 25yrs_4.jpg
  • 25yrs_5.jpg
  • 25yrs_6.jpg
  • dess_1.jpg

 Cwmni Perfformio: 25 Mlwydd Oed

Gyda chwarter canrif o waith caled, dyfalbarhad a chefnogaeth nifer o unigolion a mudiadau mae Diversions wedi ennill ei le ym mywyd diwylliannol Cymru ac fel Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ar ôl cyfres o arbrofion dawns cythryblus yng Nghymru trwy gydol y 1970au, arweiniodd strategaeth newydd a blaengar gan Gyngor y Celfyddydau ym 1983 at i ddau ddawnsiwr a choreograffwr, Roy Campbell-Moore ac Ann Sholem, dderbyn gwahoddiad i Gaerdydd a chymryd y camau cyntaf tuag at sefydlu Diversions. Bellach mae'r Cwmni yn barod i lamu i mewn i'r chwarter canrif nesaf fel Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, canmoliaeth a chydnabyddiaeth uchel o'r teyrngarwch, yr ymrwymiad a'r ymdrech a welwyd dros y 25 mlynedd ddiwethaf.

O'r cychwyn cyntaf roedd gweledigaeth y Cyfarwyddwyr yn glir, a phery felly heddiw hefyd. Yn syml roeddent yn dymuno creu cynyrchiadau dawns o safon rhyngwladol a mynd â nhw ar daith yng Nghymru a thu hwnt. Roeddent hefyd yn dymuno rhannu'r gwaith hwn â chynulleidfaoedd trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau cyfranogol yng Nghymru ben baladr - meddylfryd cwmni sy'n gweithio o fewn ei chymuned ei hun, sy'n ei amlygu fel grŵp unigryw a nodedig o artistiaid. Credent taw dim ond y gorau o'r ffurf yma ar gelfyddyd a ddylid ei ddangos gan y cwmni a bu i'r angerdd hwn am safon ennyn cefnogaeth y gynulleidfa a rheolwyr lleoliadau ym mhob cwr o'r wlad.

Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach mae gan Diversions repertoire dawns oddi wrth goreograffwyr mwyaf cyffrous y byd heddiw ac mae'r Cwmni yn mwynhau mynd ar deithiau llwyddiannus yn yr Alban, Iwerddon a Lloegr yn ogystal â Chymru. Aeth y cwmni ar ei daith ryngwladol gyntaf ym 1986 i Zagreb, ac yn ystod 2007 rhoddwyd perfformiadau yng Ngwlad Pwyl, Groeg ac yng Ngŵyl Ddawns Fawreddog yr Iseldiroedd. Bellach mae gan Diversions enw da yn rhyngwladol; am ei ddawnswyr ardderchog a'i repertoire, gan dderbyn canmoliaeth uchel a chydnabyddiaeth oddi wrth y cyhoedd a'r beirniaid fel ei gilydd ym mhob rhan o'r byd.

Mae'r Cwmni wedi cael sawl cartref dros y blynyddoedd. Rhwng 1983 a 1986 lletyai'r Cwmni yn adeilad yr hen YMCA/Theatr Caricature, gan rannu'r stiwdio gyda llygod mawr! Yna am flwyddyn neu ddwy cawsant groeso cyfeillgar yng Nghanolfan Gymunedol East Moors, lle yn anffodus, fandaliaeth oedd y brif broblem. Wedyn rhoddodd Stiwdio Ebenezer sefydlogrwydd i'r Cwmni am un mlynedd ar ddeg er yn y diwedd rhaid oedd i'r dawnswyr osgoi'r bwcedi ar y llawr pryd bynnag y byddai'n glawio. Llanwodd Ystâd Ddiwydiannol Tyndall Street dwll tair blynedd o hyd cyn i'r Cwmni symud i Ganolfan Mileniwm Cymru yn 2004 a'i gartref newydd yn y Tŷ Dawns lle gall greu, archwilio, cynhyrchu a pherfformio gwaith yn un o ganolfannau cynhyrchu dawns gorau Ewrop. Mae Diversions yn ddiolchgar i'r holl unigolion a mudiadau a gyfrannodd at droi CMC o fod yn ddim yn syniad i fod yn ofod lle y gall creadigrwydd ddod yn fyw.

Mae CMC yn gartref hefyd ar gyfer partneriaethau ac yn 2007 fe fu'r Sylfaenydd Gyfarwyddwr, Roy, yn gweithio gyda Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Diversions a phensaer CMC Jonathan Adams er mwyn creu'r gwaith blaengar Seven Deadly Sins, a berfformiwyd ar lwyfan Donald Gordon. Yn 2008, ar ôl tair blynedd yn ei gartref newydd yn CMC, mae Diversions hefyd, yn ei deilyngdod ei hun, wedi perfformio ar yr un llwyfan - un o'r gorau ar gyfer dawns yn y byd.Bydd y dathliadau yn 2008 i nodi chwarter canrif ers ei sefydlu yn lansio dyfodol newydd a chyffrous i Diversions. Mae'r ddau Sylfaenydd Gyfarwyddwyr wedi newid eu swyddogaethau arwain gyda Roy yn awr yn Gydymaith Artistig yn defnyddio ei arbenigedd i archwilio cyfeiriadau newydd a chyffrous o feddwl; ac Ann fel Cyfarwyddwr Artistig, yn canolbwyntio ar greu rhaglenni newydd o ardderchowgrwydd rhyngwladol er mwyn meithrin ymhellach statws rhyngwladol y Cwmni a meithrin ei statws Cenedlaethol newydd.

Dros y blynyddoedd mae Diversions wedi creu gweithiau rhyfeddol sydd wedi cyffroi cynulleidfaoedd gyda dawnswyr â phersonoliaethau mawr, techneg ryfeddol ac angerdd. Y cyfuniad hwn o berfformwyr carismataidd a choreograffwyr blaengar sydd wrth graidd y Cwmni ac a bery felly i'r dyfodol yn holl waith Diversions.